Ymgynghoriad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Evidence submitted to the Children, Young People and Education Committee for Stage 1 scrutiny of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill

CADRP-645

CADRP-645

Cyflwynwyd yr ymateb hwn yn Gymraeg.

Amdanoch Chi

Enw: Dr Mair Edwards

Rôl: Seicolegydd Clinigol

1      Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1     A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)?

-       Ydw

1.2     Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

Drwy ddiddymu yr amddiffyniad o gosb rhesymol bydd yn haws helpu rhieni i sylweddoli nad yw cosb gorfforol yn ffordd effeithiol na derbyniol o ddisgyblu plant - a thrwy hynny, annog rhieni i ddysgu am ffyrdd mwy effeithiol o greu ffiniau addas a disgyblaeth bositif. Mae disgyblaeth yn hynod o bwysig - ac mae'n bwysig iawn cefnogi rhieni i fod yn rieni effeithiol a charedig - a thrwy hynny fagu cenhedlaethau o blant a pobl ifanc sydd hefyd yn tyfu i fod yn rieni effeithiol a charedig.

Mae rhieni fel arfer yn defnyddio cosb gorfforol pan maent wedi colli rheolaeth - ac mae hynny yn template gwael i blant sydd yn y broses o ddysgu sut i reoli emosiynau. Mae cosbi plant yn gorfforol yn rhoi neges i'r plentyn bod hi'n dderbyniol taro a defnyddio ffyrdd corfforol o ddangos dicter. Ond - mae'r plant wedyn yn cael negeseuon cymysg achos os ydyn nhw yn taro rhywun yn yr ysgol neu yn y gymuned mae'n arwain at gosb neu eithrio. Mae ein plant yn haeddu cael eu haddysgu mewn ffordd bositif sy'n arwain at hunan-ddisgyblaeth a hunan-reolaeth addas.

Byddai'r Bil Plant hefyd yn rhoi'r un hawliau i blant o bob oed i gael eu trin â pharch ac yn briodol - a thrwy hynny, yn y pen draw, newid agweddau tuag at y defnydd o drais ym mha bynnag sefyllfa.

1.3     A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

Oes - mae angen deddfwriaeth er mwyn rhoi neges glir i rieni bod gwell ffyrdd o ddisgyblu. Tra'n derbyn y bydd rhai rhieni yn dal i ddefnyddio cosb gorfforol, mae'n rhoi llawer iawn mwy o ddylanwad i'r rhai ohonom sy'n gweithio gyda rhieni i ddatblygu gwell sgiliau. Fel arfer, unwaith mae rhieni yn gweld eu drostynt eu hunain bod disgyblaeth bositif yn fwy effeithiol mae'n nhw'n fodlon iawn newid - OND mae rhai rhieni yn benderfynol bod cosbi corfforol yn addas ac yn methu gweld y niwed emosiynol tymor hir mae'n achosi. Ar gyfer y lleiafrif yma mae angen deddfwriaeth (yn yr un modd ag oedd angen deddf ar gyfer gofalu bod plant yn gwisgo gwregys diogelwch mewn car - wnaiff rhai pobl ddim dilyn rhesymeg!)

2      Gweithredu’r Bil

2.1     A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

Bydd angen darparu rhaglenni hyfforddi rhieni ar ffyrdd addas o ddisgyblu - fel nad oes unrhyw riant yn teimlo nad ydynt yn gallu disgyblu'n effeithiol. Bydd angen codi sgiliau ar lefel cymunedol yn y lle cyntaf yn hytrach na thargedu. Os mai'r norm yw disgyblu effeithiol a phositif yna bydd hynny'n helpu y rhieni hynny sy'n ei chael yn anodd newid patrymau magu plant.

2.2     A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

-

3      Canlyniadau anfwriadol

3.1     A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

-

4      Goblygiadau ariannol

4.1     A oes gennych farn ar oblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os na, ewch i gwestiwn 5.1

Yn fy marn i bydd angen buddsoddi mewn hyfforddiant rhieni ar lefel cymunedol - h.y. nid dim ond targedu rhieni â sgiliau gwan. Bydd cost ynghlwm a hyn. Bechod bod gymaint o'r cynlluniau cefnogi rhieni a phlant wedi diflannu dros y ddegawd diwethaf!

5      Ystyriaethau eraill

5.1     A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

Bydde'n braf cael byw mewn gwlad sy'n parchu plant - ac yn dangos hynny'n glir